Diolch am y cyfle i ymateb i'r mesur o Ymestyn agor Safleoedd Carafanau o ddeg mis i ddeuddeg mis, sef trwy'r flwyddyn.

 

1. Yn gyntaf fe hoffwn ddweud wrth drafod yn lleol, bod yna sawl mudiad a'r Cyngor Cymuned gyda phryder o weld y Safleoedd yma yn agor am ddeuddeg mis, ac yn llwyr wrthod y newid yma am sawl reswm.  Y mae cais amy math yma o beth wedi mynd trwodd yn weddol ddiweddar ar waetha gwrthwynebiad mawr yn yr ardal.

2. Yn yr ardal yma mae yna dros 4,000 o Garafanau, ac erbyn hyn ac yn raddol mae sawl safle wedi derbyn yr hawl i agor am ddeuddeg mis 3. Oherwydd y sefyllfa ddifrifol ariannol sydd yn gwynebu Llywodraeth Leol, fe fydd ddim modd iddynt fel gwasanaeth fonitro'r Safleoedd yma 4. Fe fydd y bwriad yn groes i Nodyn Cyngor Technegol 20 sy'n caniatáu i fuddiannau ac anghenion yr Iaith Gymraeg gael eu cymered i ystyriaeth.

5. Oherwydd y diffyg monitro fe fydd yn agor y drws i ddarpariaeth barhaol ac felly yn tanseilio polisi ch4 ac yn medru ymestyn i dai fforddiadwy, oherwydd ansawdd uchel y Carafanau.

6. Fe fydd yn rhoi pwysau ychwanegol a'r gwasanaethau'r Cyngor fel Gwasanaethau Cymdeithasol, Priffyrdd ynghyd ac Iechyd, Heddlu a gwasanaeth brys yr ardal.

 

Mae'r sylwadau uchod yn dod oddi wrth sawl ardal yma yn Eifionydd, gyda gobaith y bydd yr Ymchwil yn cadarnhau dim agor am ddeuddeg Mis.

Gyda diolch ac edrychaf ymlaen am eich ymateb, rwyf yn hapus iawn i chwi gysylltu os ydych angen trafod ymhellach.

Yn gywir iawn

 

Aled Evans, Cynghorydd Ward llanystumdwy.